WeCare Wales logo

Mae Gofalwn Cymru yn tynnu sylw at sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant mewn gwirionedd.

Mae’r ymgyrch yn gydweithrediad rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau arweiniol sy’n cynrychioli’r sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, ynghyd â chyrff cenedlaethol eraill sy’n ymwneud â chwilio am waith a chyngor gyrfaol.

Mae’n rhan o strategaeth hirdymor i ddatblygu’r gweithluoedd yn y sectorau gofal ac iechyd dros y ddegawd nesaf er mwyn cynnig gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol mewn gofal, o warchodwyr plant ac ymarferwyr meithrin i gydlynwyr gofal cartref a rheolwyr cartrefi gofal.

Ar hyn o bryd, mae tua un o bob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio mewn gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant (tua 113,000 o bobl), sy’n golygu bod y maes yn gyflogwr mwy na’r GIG.

Nod yr ymgyrch Gofalwn yw tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau a chyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael. Drwy ddefnyddio gweithwyr gofal go iawn, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar yr heriau y maent yn eu hwynebu, ynghyd â’r hyn sy’n gwneud eu gwaith yn werth chweil.

Gofalwn Cymru

A ydych chi’n chwilio am swydd newydd, her neu newid gyrfa? Gallai gweithio mewn gofal fod yn berffaith i chi.

Pam gweithio mewn gofal?

  • Gwneud gwahaniaeth enfawr drwy gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn eich cymuned leol.
  • Cyfleoedd i hyfforddi, gwella a datblygu mewn gyrfa mewn gofal.
  • Gyrfa wirioneddol foddhaus a phleserus.

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol 

Rydym yn cynnal cwrs hyfforddi am ddim, wedi’i ariannu’n llawn, i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol o’r new Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol.

Y rhaglen

Mae’r rhaglen tri diwrnod ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru a bydd yn cael ei chynnal ar-lein.

Mae diwrnodau’r rhaglen unwaith yr wythnos am gyfnod o dair wythnos gyda llyfr gwaith i’w gwblhau.

Mae’r amseroedd rhwng 10am – 2:30pm.

Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu’r hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol fel cyfathrebu, diogelu ac arferion gwaith. Pan fyddwch yn dechrau gweithio yn y sector, byddwch hefyd yn derbyn cymorth a hyfforddiant ychwanegol gan eich cyflogwr.

Os na allwch gael mynediad i’r hyfforddiant ar-lein neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni ar cyswllt@gofalwn.cymru.

Rhagor o wybodaeth

Chwilio am swyddi mewn gofal?

Edrychwch ar ein porth swyddi pwrpasol ar gyfer rolau ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.  Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn diweddariadau am y rolau gofal sydd ar gael yn eich ardal – beth bynnag yw lefel eich profiad.

Chwilio am swyddi gofal yng Ngorllewin Cymru

Rhowch gynnig ar y cwis ar-lein sy’n seiliedig ar werthoedd ‘Cwestiwn Gofal: Gyrfa i CHI’ lle gallwch gael cipolwg ar wahanol agweddau ar rolau swyddi penodol.

https://gofalwn.cymru/swyddi/

Cyngor a Chymorth o ran Gwneud Cais/CV/Cyfweliad

I gael help a chefnogaeth i lenwi ffurflenni cais a thechnegau cyfweld, cysylltwch â thîm Cymru’n Gweithio https://cymrungweithio.llyw.cymru/

Recriwtio yn y sector gofal

Os ydych yn gyflogwr yn y sector gofal, mae Porth Cyflogwyr Gofalwn Cymru yn adnodd ar gyfer hysbysebu eich swyddi gwag mewn gofal.  Mae’n blatfform un stop am ddim lle gallwch bostio eich swyddi gofal presennol yn gyflym ac yn hawdd.

https://gofalwn.cymru/cyflwyno-swydd-wag/

Straeon go iawn gan bobl go iawn

Mae mwy na 50 fideo o weithwyr gofal proffesiynol wedi’u creu i dynnu sylw at werth gweithio mewn gofal. Mae astudiaethau achos o Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Gofal Cartref, Rheolwyr Meithrinfeydd, Gwarchodwyr Plant a llawer mwy yn arddangos yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael mewn gofal i helpu i ysbrydoli pobl i ddilyn gyrfa yn y sector.

Nid oes ffordd well o wybod a oes gennych yr hyn sydd ei angen na chlywed gan bobl sy’n gwneud y gwaith ar hyn o bryd.

Cliciwch i weld detholiad o ffilmiau

Rhaglen Llysgenhadon Gofal

Mae’r rhaglen Llysgenhadon Gofal yn codi proffil gofal cymdeithasol, a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae Llysgenhadon Gofal yn helpu i addysgu pobl am y dewisiadau gyrfaol a’r cyfleoedd dilyniant amrywiol a phleserus sydd ar gael iddynt.

Gallai rôl Llysgennad Gofal gynnwys:

  • Siarad â myfyrwyr mewn ysgolion neu golegau yn eich ardal
  • Sgyrsiau neu drafodaethau anffurfiol mewn cymunedau lleol
  • Mynd i ddigwyddiadau a chynadleddau gyrfa

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Gofalwn a’r adnoddau sydd ar gael i chi a/neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynllun llysgenhadon gofal, cysylltwch â ni.

Cyswllt: Leanne McFarland, Cysylltydd Gyrfaoedd Gofal Rhanbarthol (Gorllewin Cymru) lamcfarland@sirgar.gov.uk

Facebook: @gofalwncymru

Twitter: @gofalwncymru

Instagram: @gofalwncymrucares