Adeiladu Capasiti Sir Benfro i Ofalu
Hydref 29, 2019
Ein Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru 2020-2025
Tachwedd 26, 2020

Mae Adroddiad Arolwg Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Gorllewin Cymru

Diolch i bawb wnaeth gyfrannu adborth at ein harolwg gofalwyr rhanbarthol. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma ac mae eich adborth yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu Strategaeth. Dyma’r pedwar maes blaenoriaeth allweddol sydd wedi dod i’r amlwg:

  • Blaenoriaeth 1: Gwella adnabod a hunan-adnabod Gofalwyr yn gynnar, gan gynnwys Gofalwyr ifanc a Gofalwyr sy’n oedolion ifanc.
  • Blaenoriaeth 2: Sicrhau bod ystod o wasanaethau ar gael i gefnogi llesiant Gofalwyr o bob oed, yn eu bywyd ochr yn ochr â gofalu.
  • Blaenoriaeth 3: Cefnogi Gofalwyr i gael a chynnal cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
  • Blaenoriaeth 4: Cynorthwyo Gofalwyr i gael eu cynnwys yn ddigidol

Byddwn yn gweithio i ymgorffori’r rhain yn ein Strategaeth i’r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol ei gymeradwyo ym mis Hydref 2020, ond os hoffech wneud unrhyw sylwadau, e-bostiwch carersteam.hdd@wales.nhs.uk

https://www.wwcp.org.uk/wp-content/uploads/2020/08/cym-WW-Carers-Strategy-Survey-Report-200721.pdf